Am Ein Hasesiadau Nofio Am Ddim
Plymiwch i fyd o ryfeddod gyda Dyddiau Agored ein Hysgol Nofio. Dyma'r cyfle perffaith i chi edrych ar fanteision nofio i'ch plentyn, neu i chi'ch hun.
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar ac arbenigol wrth law i ateb eich cwestiynau chi am ein Hysgol Nofio. Wedyn fe fyddwch chi, neu eich plentyn, yn cael cyfle i fynd i mewn i'r pwll fel ein bod yn gallu penderfynu ar lefel hyfedredd y nofiwr a'i roi mewn dosbarth nofio priodol.
Beth i'w Ddisgwyl
- Dyddiad: Yn wythnosol bob dydd Iau
- Amser: 16:00 - 16:45
- Beth i ddod gyda chi: Gwisg Nofio, Het Nofio, Gogls, Tywel a darn arian £1 ar gyfer locer.
- Arall: Mae gennym ni seddi i wylwyr ar gael i rieni / gwarcheidwaid. Bydd yr asesiadau’n cymryd 15 munud, ac ar ôl hynny bydd yr hyfforddwyr yn cynghori pa wersi sydd fwyaf addas i’r dysgwr gofrestru ar eu cyfer.
Sut i Archebu
Archebwch eich sesiwn heddiw drwy ddewis y dyddiad a’r amser a dilyn y cyfarwyddiadau.
Oes gennych chi gwestiynau?
Angen mwy o fanylion? Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am sut gall eich plentyn ymuno yn yr hwyl.