Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Defnyddio’r gampfa

P'un a oes gennych brofiad helaeth o fynychu’r gampfa neu ond yn dechrau arni, rydym yn sylweddoli y gall fod yn frawychus dod i le newydd i ymarfer corff. Mae staff ein campfa a'n hyfforddwyr personol yno i'ch helpu, dangos trefniadau newydd i chi a rhoi cyflwyniad llawn ar sut i ddefnyddio'r offer.

Ble ydw i’n dechrau?

Rydyn ni'n deall, os ydych chi'n dod i'r ganolfan am y tro cyntaf, efallai nad ydych chi'n gwybod sut i ddefnyddio peth o'r offer. Peidiwch â phoeni, bydd un o'n staff yn rhoi cyflwyniad llawn i chi ar sut i ddefnyddio'r offer i sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio'n gywir ac yn ddiogel.

Pan fyddwch chi'n defnyddio'r gampfa, mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch chi wneud ymarfer corff. P'un a yw'n defnyddio'r ystod o offer sydd gennym ar gynnig i roi ymarfer corff llawn i'ch hun neu dargedu ardaloedd penodol o'ch corff bob sesiwn, mae cynllunio'ch trefn yn hanfodol. Os ydych chi'n ansicr ar ble i ddechrau, estynnwch allan at un o'n hyfforddwyr personol a fydd yn hapus i'ch rhoi ben ffordd.  

A oes angen i fi ddod ag unrhyw beth â mi?

Ar y cyfan, dim ond chi eich hun! Mae popeth yno'n barod i chi wneud ymarfer corff yn hyderus. Fel arall, mae potel ddŵr a thywel campfa yn eitemau defnyddiol i gario o gwmpas gyda chi.

Beth ydw i'n ei wisgo?

Fel arfer byddwch yn gwisgo dillad chwaraeon, yn debyg iawn i'r hyn y byddech yn ei wisgo i redeg ar y ffordd. Crysau-t Cotwm / Polyester, siorts pêl-droed, legins campfa a thracwisg yw rhai o'r eitemau mwy cyffredin sy'n cael eu gwisgo yn y gampfa. Bydden ni'n argymell peidio gwisgo denim, crysau neu rywbeth fyddech chi'n ei wisgo ar nos Sadwrn!

SPECIAL OFFER
YMAELODI
  • Mynediad i'n campfa â 50 o safleoedd ymarfer
  • Pwll nofio 17.5 metr
  • 12 o ddosbarthiadau’r wythnos
  • Opsiynau aelodaeth hyblyg a sefydlog
JOIN TODAY And pay just £10 until March

Prisiau aelodaeth a phrisiau dydd

Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma